You are here:> Home > Knowledge bank > Jobs and opportunities in dance > Interniaeth Dawns yn y Gymuned
Job Opportunities
Dawns i Bawb
Interniaeth Dawns yn y Gymuned
Location: Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn.
Salary: £8.21-£10 yr awr
Deadline: 30 August 2019
Mae Dawns i Bawb yn chwilio am Intern Dawns fel rhan o’n cynllun i ddatblygu ein tîm o ymarferwyr Dawns yn y Gymuned lawrydd.
Dawns I Bawb logo

1 x Cynllun Interniaeth i siaradwr neu ddysgwr Cymraeg gyda Lefel A/BTEC mewn Dawns/Celfyddydau Perfformio neu o leiaf profiad o 2 flynedd o hyfforddiant dawns reolaidd.

Mae’r cynllun yn croesawu pobl gyda Chymraeg o lefel sylfaenol neu sy’n dysgu Cymraeg ac yn awyddus i ddatblygu sgiliau arwain sesiynau dawns trwy’r Gymraeg. Bydd yr Interniaeth yn digwydd dros 6 mis. Byddwch yn derbyn hyfforddiant am 16 awr yr wythnos a byddwch yn derbyn tâl hyfforddiant o rhwng £8.21-£10 yr awr yn dibynnu ar brofiad yn ogystal ag unrhyw gostau teithio. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gweithio yn benodol gyda phobl gydag anableddau a grwpiau eraill sy’n gweithio yn benodol trwy’r cyfrwng Gymraeg.

Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, bydd yna gyfle i weithio fel ymarferydd Dawns yn y Gymuned lawrydd i Dawns i Bawb gan ganolbwyntio ar ddatblygu ein rhaglenni Dawns i Bobl ag Anableddau a Dawns i Oedolion ledled y tair sir.

Gofynion

  • Lefel A/BTEC mewn dawns/Celfyddydau Perfformio neu wedi derbyn o leiaf 2 flynedd o hyfforddiant dawns reolaidd.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg sy'n cytuno i ymrwymo i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg fel rhan o'u hyfforddiant
  • Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb mewn gwaith Dawns yn y Gymuned
  • Dylai ymgeiswyr fod wedi eu lleoli yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn neu'n byw yn agos atynt
  • Byddai o fantais i ymgeiswyr gael trwydded yrru a char gan fod teithio yn rheolaidd i sesiynau ar draws y tair sir yn ofynnol
  • Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS Uwch - Rydym yn croesawu ceiswyr o bob oedran a gallu.
How to Apply

Anfon CV diweddaraf gyda llythyr eglurhaol yn amlinellu eich sgiliau a'ch profiad a pham mae gennych ddiddordeb yn yr Interniaeth i'r cyfeiriad e-bost isod erbyn Dydd Gwener 30 Awst 2019. Rydym hefyd angen enw o leiaf un canolwr.

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i fynychu cyfweliad anffurfiol a gofynnir iddynt fynychu a chymryd rhan mewn un o'n dosbarthiadau cymunedol. Bydd hyn yn eich helpu i gael blas ar ein gwaith a chadarnhad fod hwn yn gyfle priodol i chi.

I geisio, e-bostiwch ein Cyfarwyddwr Artistig, Catherine Young - catherine@dawnsibawb.org neu bostio’ch cais i: Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ erbyn Dydd Gwener, 30 Awst 2019.
Contact Details
Email: catherine@dawnsibawb.org
Website: dawnsibawb.org/index.html
Postal Address:
Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ erbyn Dydd Gwener