You are here:> Home > Read, Watch & Listen > Blogs and Vlogs > Belonging through dance
Belonging through dance
Date posted: 16 August 2022
Dance artist Angharad Harrop blogs about the new, exciting Curriculum for Wales, how it’s engendering a sense of belonging and what we can learn from it.

It’s an exciting time for Early Years Dance in Wales with the implementation of the new Curriculum for Wales. Add this to The Wellbeing of Future Generations Act (2015), which is now in full swing, and Cymraeg 2050: A Million Welsh Speakers, an initiative to achieve a million Welsh speakers by 2050 - never have our services been more required!

As in all areas, the impact of the COVID-19 pandemic has been felt acutely for those of us working in Early Years in Wales, as it has for the young children and their families. Health, wellbeing and creativity is underwriting government policy throughout all sectors in Wales and we are grateful for it. It’s an exciting time, full of opportunities for practitioners, artists and families to play and explore together. I have never been more in demand than over the past few months. I know it was the end of the financial year and organisations always seem to find some money from somewhere! But it is also a reflection on the changing cultures these policies are enacting.

Following Professor Donaldson’s report Successful Futures into education in Wales in 2015, the Arts Council Wales and Welsh Government have been helping schools and education providers reflect upon the learning that takes place in the classroom and guiding them to think creatively about how they teach. This is where the Early Years Dance Artists come in - our expertise and knowledge in providing playful learning opportunities that allow children to explore their individuality and creativity are and sought after. It is so wonderful to be valued for our specialised skills!

As an Early Years Dance Artist, I have been working closely with organisations such as Flying Start to learn of the challenges they are facing in the aftermath of the pandemic and the socio-economic impact it has had. Together, we have explored the value of creative movement for the children and the staff in their settings to see how dance can support areas of concern. For the children, we have explored how creative movement can help language development and bilingual learning (a true passion of mine!) as well as physical and social development. For staff we have looked at how creative movement can bring moments of connection and job satisfaction therefore increasing wellbeing at work.

In schools, I have been working alongside early years staff exploring how creative movement can support many aspects of the Curriculum for Wales through the Arts Council of Wales Lead Creative School Scheme. The Curriculum for Wales is guided by four purposes that aim to support children to become:

  • ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives
  • enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work
  • ethical, informed citizens of Wales and the world
  • healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

When I was first introduced to these my heart did a little happy dance and I couldn’t help the excited wiggle and huge smile that emerged as dance fulfils all of these! The Lead Creative Schools approach supports enquiry from the teachers and artists involved to work creatively within the unique circumstances of each school. Together with staff at Ysgol Ein Harglwyddes in Bangor, a primary school with many international pupils, we developed a project focussing on mathematics, which also aimed to help the school’s students feel a sense of belonging to Wales. In Welsh, we have a word for a sense of belonging to where we live; cynefin. We wanted to nurture this in the young people so that they can gain a sense of cynefin, grow roots within the wonderful culture and heritage of Wales. Through inviting young children to explore their creativity within the formations and structures of folk dance, we created a project that allowed the seeds of cynefin to germinate whilst also exploring sequencing, patterning, number and space.

The Curriculum for Wales is providing opportunities for creative learning, not just for the children, but for the teachers and the artists involved in its implementation. It offers us as Early Years Dance Artists the opportunity to reflect upon and apply our practice to the needs of different early years settings. This approach gives me the paid time to invest in my own practice and I am finding a better balance between delivering, developing my practice and enjoying all the wonders of living on the North Wales coasts with a young family.

In response to all these exciting developments, a network for early years dance in Wales is beginning, Sbri! Its aim is to help support artists working in Wales to engage with the opportunities this Curriculum for Wales provides. With support from Arts Council Wales’ Sharing Together Fund, we will be arranging networking events to get together and share our passion for all things dance and early years over the next few months. Come and join us, we would love to learn from and share with you!

Info


    Contact us at sbri.network@gmail.com or through our facebook group Sbri.

    Images: Top - photo by Ysgol Ein Harglwyddes. Square - Angharad Harrop headshot.

    Blog available in Welsh below.

     

    Ar gyfer y plant


    Mae’n gyfnod cyffrous i Ddawns yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru gyda’r Cwricwlwm i Gymru ar fin cael ei weithredu. Mae hyn ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), sydd bellach ar ei hanterth, a Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, sy’n fenter i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ni fu erioed fwy o angen am ein gwasanaethau!

    Fel ym mhob maes, mae effaith Cofid wedi’i theimlo’n ddifrifol ar y rheini ohonom sy’n gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru, fel y mae wedi ar blant ifanc a’u teuluoedd. Mae iechyd, lles a chreadigrwydd wrth wraidd polisiau’r llywodraeth ym mhob sector yng Nghymru ac rydym yn ddiolchgar amdano. Mae’n gyfnod cyffrous, yn llawn cyfleoedd i ymarferwyr, artistiaid a theuluoedd chwarae ac archwilio gyda’i gilydd. Nid wyf erioed wedi bod mewn cymaint o alw nag yn ystod y misoedd diwethaf. (Rwy'n gwybod ei bod hi'n ddiwedd y flwyddyn ariannol ac mae sefydliadau bob amser i'w gweld yn dod o hyd i ychydig o arian o rywle!) Ond mae hefyd yn adlewyrchiad o'r newid diwylliannol y mae'r polisïau hyn yn eu gweithredu.

    Yn dilyn adroddiad yr Athro Donaldson, Dyfodol Llwyddiannus i addysg yng Nghymru yn 2015, mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru wedi bod yn helpu ysgolion a darparwyr addysg i fyfyrio ar y dysgu sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth a’u harwain i feddwl yn greadigol am sut y maent yn addysgu. Dyma lle mae Artistiaid Dawns yn y Blynyddoedd Cynnar yn dod i mewn, ac mae ein harbenigedd a’n gwybodaeth mewn darparu cyfleoedd dysgu chwareus sy’n caniatáu i blant archwilio eu creadigrwydd au hunain fel unigolion ar alw. Mae mor wych cael ein gwerthfawrogi am ein sgiliau arbenigol!

    Fel Artist Dawns yn y Blynyddoedd Cynnar rwyf wedi bod yn cydweithio gyda sefydliadau fel Dechrau’n Deg, i ddysgu am yr heriau y maent yn eu hwynebu yn dilyn y pandemig a’r effaith economaidd-gymdeithasol y mae wedi’i gael. Gyda'n gilydd rydym wedi archwilio gwerth symudiad creadigol i'r plant a'r staff yn eu lleoliadau i weld sut y gall dawns gefnogi meysydd sy'n peri pryder. I’r plant, rydym wedi archwilio sut y gall symud creadigol helpu datblygiad iaith a dysgu’n ddwyieithog (rhywbeth dwi’n angerddol iawn amdano!) yn ogystal â datblygiad corfforol a chymdeithasol. Ar gyfer staff rydym wedi edrych ar sut y gall symud creadigol ddod ag eiliadau o gysylltiad a boddhad swydd gan gynyddu lles yn y gwaith.

    Mewn ysgolion rwyf wedi bod yn cydweithio gyda staff y blynyddoedd cynnar yn archwilio sut y gall symudiad creadigol gefnogi sawl agwedd ar y Cwricwlwm i Gymru trwy Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei arwain gan bedwar diben sy’n anelu at gefnogi plant i ddod yn:

    • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu hoes
    • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy'n barod i chwarae rhan yn lawn mewn bywyd a’u gwaith
    • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
    • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

    Pan gefais fy nghyflwyno i’r rhain am y tro cyntaf fe wnaeth fy nghalon ddawnsio ac doeddwn ni methu helpu fy nghyffro a fy ngwên enfawr gan wybod fod dawns gyda’r modd o gyflawni pob un o’r rhain! Mae dull Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cefnogi gwaith ymholiadol gan yr athrawon a’r artistiaid dan sylw i weithio’n greadigol o fewn amgylchiadau unigryw pob ysgol. Drwy gydweithio gyda staff Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor, ysgol gynradd gyda llawer o ddisgyblion rhyngwladol, fe wnaethom ddatblygu prosiect oedd yn canolbwyntio ar fathemateg, a oedd hefyd yn anelu at helpu myfyrwyr yr ysgol i deimlo ymdeimlad o berthyn i Gymru. Yn y Gymraeg mae gennym air am ymdeimlad o berthyn i'r lle rydym yn byw, Cynefin. Roeddem am feithrin hyn yn y bobl ifanc er mwyn iddynt gael ymdeimlad o gynefin, tyfu gwreiddiau o fewn diwylliant a threftadaeth hyfryd Cymru. Trwy wahodd plant ifanc i archwilio eu creadigrwydd o fewn ffurfiannau a strwythurau dawns werin, fe wnaethom greu prosiect oedd yn caniatáu i’w ymdeimlad o gynefin egino tra hefyd yn archwilio themau dilyniant, patrwm, rhif a gofod.

    Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu creadigol, nid yn unig i’r plant, ond i’r athrawon a’r artistiaid sy’n ymwneud â’i weithredu. Mae’n cynnig cyfle i ni fel artistiaid dawns yn y blynyddoedd cynnar i fyfyrio ar ein hymarfer a’i gymhwyso i anghenion gwahanol leoliadau y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn rhoi’r amser cyflogedig i mi fuddsoddi yn fy ymarfer fy hun ac rwy’n dod o hyd i well cydbwysedd rhwng cyflawni, datblygu fy ymarfer a mwynhau’r holl ryfeddodau o fyw gyda theulu ifanc ar arfordir Gogledd Cymru.

    Mewn ymateb i’r holl ddatblygiadau cyffrous hyn mae rhwydwaith ar gyfer dawns yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn dechrau, Sbri! Ei nod yw helpu i gefnogi artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r cwricwlwm newydd hwn yn eu darparu. Gyda chymorth trwy’r gronfa Cydrannu gan y Cyngor Celfyddydau Cymru, byddwn yn trefnu digwyddiadau rhwydweithio i ddod at ein gilydd a rhannu ein hangerdd am bopeth sy’n ymwneud â dawns a’r blynyddoedd cynnar, dros yr ychydig fisoedd nesaf. Dewch i ymuno â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu a dysgu oddi wrthych chi!

    Gwybodaeth

    Cysylltwch â ni sbri.network@gmail.com neu trwy ein grwp Facebook Sbri.